Mae baner Mercosur yn symbol ar gyfer cymuned economaidd 'Mercosur' yn Ne America (mercosur yw'r talfyriad yn Sbaeneg, mercosul yw'r talfyriad yn Portiwgaleg). Mae MERCOSUR yn gyfunair am MERC (marchnad) a SUR (y de) ac yn debyg i'r Undeb Ewropeaidd. Yr aelodau yw Brasil, Wrwgwái, Paragwâi a'r Ariannin.