Delwedd:Lithium-Ionen-Accumulator.jpg, Lithium-Ion Cell cylindric.JPG | |
Enghraifft o: | battery chemistry type |
---|---|
Math | rechargeable battery |
Yn cynnwys | cyfansoddion lithiwm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math arbennig o fatri y gellir ei ailwefru ydy batri lithiwm-ion (a enwir hefyd yn Li-ion battery neu LIB). Ynddo, mae'r ionau'n symud o'r electrod negatif i'r electrod positif wrth ddadlwytho'i bwer ac wrth iddo gael ei drydanu. Mae'r ionau hyn yn medru mynd a dod o fewn yr haenau, yn wahanol iawn i'r lithiwm a ddefnyddir mewn batris na ellir eu haildrydanu. Mae'r electrolyt, sy'n caniatáu symudiadau ionig, a'r ddau electrod yn gyfansoddion cyson, yn ddigyfnewid.
Mae'r batri Lithiwm-ion[1] yn eithaf cyffredin mewn dyfeisiau electronig yn y cartref. Dyma un o'r mathau mwyaf poblogaidd ar gyfer offer y gellir eu cludo gan nad ydynt yn colli eu gwefr yn hawdd, pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Cânt hefyd eu defnyddio mewn ceir trydan fel y Nissan Leaf a Tesla.[2] Mae Lithiwm-ion yn prysur ddisodli'r hen fath cyffredin, sef y batri asid, a ddefnyddid mewn cerbydau golff, y lori laeth ayb. A thrwy ddefnyddio'r math newydd hwn, nid oes raid addasu'r cerbyd (na'r offer trydanol) mewn unrhyw fodd.