Beddgelert

Beddgelert
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlChwedl Gelert Edit this on Wikidata
Poblogaeth455, 459 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd8,592.81 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0118°N 4.1025°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000048 Edit this on Wikidata
Cod OSSH591482 Edit this on Wikidata
Cod postLL55 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Beddgelert ("Cymorth – Sain" ynganiad ); Cyfeirnod OS: SH 59157 48176. Fe'i lleolir ar lecyn deniadol iawn yng nghanol Eryri. Saif ger aber Afon Glaslyn ac Afon Colwyn. Fymryn islaw'r aber rhed yr afon dan hen bont gerrig â dau fwa yng nghanol y pentref. Mae nifer o'r tai a'r gwestai wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. I'r gorllewin mae Moel Hebog a'i chymdogion ac i'r gogledd ceir cyfres o fryniau sy'n codi i ben Yr Wyddfa. Mae lôn yr A4085 rhwng Caernarfon (13 milltir i'r gogledd) a Porthmadog (8 milltir i'r de) yn rhedeg trwy'r pentref. Mae lôn arall yn arwain i galon mynyddoedd Eryri trwy Nant Gwynant i Ben-y-gwryd, ac ymlaen i Gapel Curig neu Llanberis.

Y bont dros Afon Glaslyn ym Meddgelert
Bedd Gelert
Golygfa o Feddgelert, 1814
Egwys y Santes Fair
Ffenest, Croes Celtaidd a'r haul drwy'r ffenestr oddi fewn i Egwys y Santes Fair

Beddgelert

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne