Beibl 1588

Beibl 1588
Math o gyfrwngfersiwn, rhifyn neu gyfieithiad Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1588 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dalen gynta Beibl 1588.

Beibl 1588 oedd y fersiwn llawn cyntaf o'r Beibl i ymddangos yn Gymraeg. Yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604), ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ynghyd â Llanarmon Mynydd Mawr ar y pryd, oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith. Credir yn gyffredinol mai cyhoeddi'r Beibl hwn yn gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi.

Stamp answyddogol yn dathlu pedwerydd ganmlwyddiant Testament Newydd 1567 (1567-1967)

Roedd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd wedi bod ar gael ers 1567, ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan. Erbyn 1587 roedd William Morgan wedi gorffen cyfieithu'r Hen Destament, y Testament Newydd a'r Apocryffa, ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg yn 1588.


Beibl 1588

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne