Bilad al-Sham

Bilad al-Sham
Mathcyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
LL-Q9610 (ben)-Tahmid-বিলাদ আল-শাম.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasDamascus Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 636 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladRashidun Caliphate Edit this on Wikidata

Bilad al-Sham (hefyd bilad-ush-shem, bilad-ash-cham, etc.) (Arabeg: بلاد الشام ) yw'r enw Arabeg traddodiadol ar ardal y Lefant (yn ei hystyr ehangaf) neu Syria Fawr, sy'n cynnwys y gwledydd modern Syria, Gwlad Iorddonen, Libanus, Israel, a'r tiriogaethau Palesteinaidd (weithiau heb gynnwys ardal Al-Jazira yng ngogledd-ddwyrain Syria heddiw). Ystyr y term yw "gwlad y llaw chwith", gan fod rhywun yn yr Hejaz a wynebai'r dwyrain yn ystyried y gogledd fel y chwith (yn yr un modd mae Iemen yn golygu "gwlad y llaw dde"). Yn ogystal mae dinas Damascus (Arabeg: al-Sham الشام ) yn dominyddu'r ardal mewn hanes fel canolfan diwyllianol, gwleidyddol a masnachol.

Nid yw'r term 'Bilad al-Sham' yn cyfateb yn union i "Syria Fawr" neu'r "Lefant", am fod Syria Fawr yn gallu cyfeirio at ardal fwy cyfyng, tra bod y Lefant yn ei dro yn gallu cyfeirio at ardal ehangach. Defnyddir yr enw gan haneswyr yn bennaf erbyn heddiw. Am lawer o hanes y Dwyrain Canol, rhannai Bilad al-Sham ddiwylliant ac economi integreiddiedig a'i chanolfan yn Damascus. Daeth yr undod hwnnw i ben yn y cyfnod trefedigaethol ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf pan ffurfiwyd y gwladwriaethau modern yn yr ardal.

Mae'r ansoddair Arabeg shami ( شامي ) yn golygu brodor o'r ardal hon. Nid oes unrhyw gysylltiad etymolegol â'r enw personol Beiblaidd Shem (mab Noah) nac â'r gair Arabeg am yr Haul shams chwaith.


Bilad al-Sham

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne