Math | metropolis, dinas, ardal ddi-blwyf, tref goleg, city of United Kingdom |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Birmingham, Swydd Warwick |
Poblogaeth | 1,137,100 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Yvonne Mosquito |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Canolbarth Lloegr (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 267.77 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 140 ±1 metr |
Gerllaw | Tame Valley Canal, Afon Tame, Afon Rea |
Cyfesurynnau | 52.48°N 1.9025°W |
Cod post | B |
Pennaeth y Llywodraeth | Yvonne Mosquito |
Dinas fawr yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Birmingham.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Birmingham.
Datblygodd yn y Chwyldro Diwydiannol, ond mae ganddi gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Rhoddwyd statws dinesig swyddogol iddi yn 1889. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Birmingham boblogaeth o 1,085,810.[2] Birmingham yw dinas ail fwyaf y Deyrnas Unedig ar ôl Llundain, ac mae hi'n ffurfio rhan sylweddol o ardal ddinesig Gorllewin Canolbarth Lloegr, a oedd â chyfanswm o 2,736,460 o bobl yn byw yno yn 2011[3] ac chynhwysa nifer o drefi a dinasoedd cyfagos megis Solihull, Wolverhampton a threfi'r Black Country. Ceir nifer o barciau a chamlesi yn y ddinas. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hi oedd y ddinas Seisnig a effeithwyd yn fwyaf gan yr ymgyrch bomio Almeinig.
Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd y ddinas yn ganolbwynt y chwyldro yn Lloegr, ac o ganlyniad gelwir Birmingham yn "weithdy'r byd" a "dinas o fil o grefftau".[4] Er i bwysigrwydd Birmingham fel dinas ddiwydiannol leihau, mae wedi datblygu i fod yn ganolfan fasnachol genedlaethol, ac fe'i henwyd yr ail le gorau yn yr Deyrnas Unedig i leoli busnes a'r 14eg yn Ewrop gan Cushman & Wakefield yn 2009.[5] Hyhi yw'r ddinas bedwaredd fwyaf o ran y nifer o ymwelwyr o dramor sy'n mynd yno hefyd.[6]
Yn 2007, rhoddwyd Birmingham yn ddinas 55ed hawsaf i fyw ynddi yn y byd a'r ail ddinas hawsaf i fyw ynddi yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Rhestr Mercer o safonau byw rhyngwladol.[7] Mae gan Birmingham yr economi dinesig ail fwyaf yn y Deyrnas Unedig, a chyrhaeddodd rif 72nd yn y byd yn 2008.[8]
Gelwir pobl o Birmingham yn 'Brummies', term sy'n tarddu o ffugenw'r ddinas - 'Brum'. Daw hyn o enw tafodieithol y ddinas, Brummagem,[9] a allai fod wedi dod o un o enwau blaenorol y ddinas, 'Bromwicham'. Mae yna dafodiaith ac acen Brummie unigryw gan drigolion y ddinas, sy'n wahanol i'r hyn a geir yn y Black Country cyfagos. Mae'n bosib fod yr enw'n cyfeirio at lwyth Celtaidd a drigai yma yn amser y Rhufeiniaid gan iddyn nodi'r ystyr fel "cartref llwyth y Beorma" ("homestead/village of Beorma's people'")[10]