Bitcoin

Bitcoin
Enghraifft o:meddalwedd am ddim, communication protocol, Cadwyn Bloc, arian cyfred, reserve currency, crypto asset, Crypto-cyfred, legal tender, system dalu Edit this on Wikidata
Mathinvestment Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebaltcoin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi3 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbitcoin blockchain, bitcoin protocol Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
GwladwriaethEl Salfador, Gweriniaeth Canolbarth Affrica Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://bitcoin.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Bitcoin yn system talu a ddyfeisiwyd gan Satoshi Nakamoto a gyhoeddwyd yn 2008 a'i lansio fel meddalwedd côd agored yn 2009. Nid oes gan Bitcoin arian papur neu ddarnau metal. Mae'r system yn gweithio'n uniongyrchol o gyfrifiadur neu ffôn symudol un defnyddiwr i ddefnyddiwr arall. Y term am y fath yma o drosglwyddo uniongyrchol yw 'P2P' - 'cymar i gymar' (Saesneg: Peer-to-Peer) a gysylltir yn bennaf a throsglwyddo ffeiliau cerddoriaeth a ffilm, heb dâl.[1]

Dywedir mai Bitcoin oedd yr arian digidol neu crypto-cyfred cyntaf gyda nifer o systemau tebyg wedi'u datblygu'n ddiweddarach, er enghraifft: Ripple, Litecoin, Peercoin.[2][3]

Gellir gwario Bitcoins heb fanc neu ffi ac nid oes raid datgelu enw personol cywir.[1] Fe'u cedwir mewn 'waled ddigidol' a all fod ar gyfrifiadur, ffôn symudol neu 'yn y cwmwl' (wedi storio ar system ar-lein). Mae'r waled ddigidol hon yn fath o gyfrif banc ac mae'r taliadau'n trosglwyddo o waled i waled. Ar yr ochr negyddol, gall y waled gael ei hacio neu ei difetha gan feirws ac mae modd dileu Bitcoin trwy gamgymheiriad. Tra bod pob trosglwyddiad yn cael ei gofrestri'n gyhoeddus, nid oes yn rhaid rhoi enw personol cywir, dim ond enw'r waled. Dywedir bod y system yn aml yn cael ei defnyddio ar gyfer prynu cyffuriau neu daliadau anghyfreithlon eraill.[1]

Ar 7 Hydref 2014, cyhoeddwyd cynllun gan Sefydliad Bitcoin Foundation eu bwriad o wneud cais am safon arian cyfred ISO 4217 ar gyfer bitcoin,[4] a soniwyd am yr ymgeiswyr BTC a XBT.[5]

  1. 1.0 1.1 1.2 http://money.cnn.com/infographic/technology/what-is-bitcoin/
  2. https://en.wikipedia.orgview_html.php?sq=crain_ford&lang=cy&q=List_of_cryptocurrencies
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-10. Cyrchwyd 2015-07-30.
  4. Nermin Hajdarbegovic (7 Hydref 2014). "Bitcoin Foundation to Standardise Bitcoin Symbol and Code Next Year". CoinDesk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-05. Cyrchwyd 28 Ionawr 2015.
  5. "Press Release 7 Hydref 2014: Bitcoin Foundation Financial Standards Working Group Leads the Way for Mainstream Bitcoin Adoption". Press Release. Bitcoin Foundation. 7 Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-07. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2014.

Bitcoin

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne