![]() | |
Enghraifft o: | ffilm ![]() |
---|---|
Lliw/iau | lliw ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America, Hong Cong ![]() |
Rhan o | Cofrestr Cenedlaethol Ffilmiau ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 25 Mehefin 1982, 10 Medi 1982, 24 Medi 1982, 14 Hydref 1982, 1982 ![]() |
Genre | tech noir, agerstalwm, ffilm gyffro, neo-noir, ffilm ddistopaidd, film noir, ffilm wyddonias, ffilm ddrama, ffilm llawn cyffro, arthouse science fiction film, ffilm a seiliwyd ar nofel ![]() |
Olynwyd gan | Blade Runner 2049 ![]() |
Prif bwnc | android, deallusrwydd artiffisial ![]() |
Lleoliad y gwaith | Los Angeles ![]() |
Hyd | 112 munud, 116 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | Ridley Scott ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | Michael Deeley, Bud Yorkin, Jerry Perenchio, Ivor Powell ![]() |
Cwmni cynhyrchu | The Ladd Company, Tandem Productions, Warner Bros. ![]() |
Cyfansoddwr | Vangelis ![]() |
Dosbarthydd | Warner Bros., InterCom, MOKÉP ![]() |
Iaith wreiddiol | Saesneg ![]() |
Sinematograffydd | Jordan Cronenweth ![]() |
Gwefan | https://www.warnerbros.com/blade-runner ![]() |
![]() |
Ffilm ffuglen wyddonol Americanaidd o 1982 a gyfarwyddwyd gan Ridley Scott yw Blade Runner. Harrison Ford sy'n serennu yn y ffilm ochr yn ochr â Rutger Hauer. Seiliwyd y sgript gan Hampton Fancher a David Peoples ar y nofel Do Androids Dream of Electric Sheep gan Philip K. Dick. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth i'r ffilm gan Vangelis a gyhoeddwyd yn 1968. Lleolwyd stori'r ffilm mewn Los Angeles dystopaidd yn y flwyddyn 2019, lle mae bodau wedi eu creu drwy beirianneg genetig a elwir replicants, caethweision sy'n edrych yr un ffunud â bodau dynol go iawn, yn cael eu cynhyrchu gan gorfforaeth rymus y teulu Tyrell. Yn sgil gwrthryfel treisgar gan y replicantod, gwaharddwyd eu defnydd ar y Ddaear, a chyfyngir eu defnydd i wladychfeydd yn y gofod ac o gwmpas Cysawd yr Haul. Caiff replicantod sy'n dod i'r Ddaear eu hel a'u lladd gan adran arbennig o'r heddlu, lleiddiaid-ditectwyr a elwir blade runners. Mae'r stori yn canolbwyntio ar un grŵp o replicantod peryglus sydd newydd ddianc i Los Angeles, a blade runner wedi hanner ymddeol o'r enw Rick Deckard, sy'n cael y dasg o'u hela nhw.