Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 4,875 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9944°N 3.9375°W |
Cod OS | SH705455 |
Cod post | LL41 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Tref yng Ngwynedd, Cymru, yw Blaenau Ffestiniog( ynganiad ). Fe'i lleolir gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001) (Gan gynnwys Llan Ffestiniog ). Mae Caerdydd 175.6 km i ffwrdd o Flaenau Ffestiniog ac mae Llundain yn 308.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sydd 29 km i ffwrdd.
Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.
Mae'r wlad o gwmpas y dref yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.
Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan bapur bro o'r enw Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis.
Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionnydd.