Math | dinas fawr, prif ganolfan ranbarthol, tref goleg, dinas, Bundesstadt, urban district of North Rhine-Westphalia, bwrdeistref trefol yr Almaen |
---|---|
Poblogaeth | 335,789 |
Pennaeth llywodraeth | Katja Dörner |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Fetropolitan Rhine-Ruhr, Nordrhein-Westfalen |
Sir | Ardal Llywodraethol Cwlen |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 141.06 km² |
Uwch y môr | 60 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Rhein, Melbbach |
Yn ffinio gyda | Ardal Rhein-Sieg, Ahrweiler, Alfter |
Cyfesurynnau | 50.7353°N 7.1022°E |
Cod post | 53111–53229 |
Pennaeth y Llywodraeth | Katja Dörner |
Dinas yn nhalaith ffederal Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen yw Bonn. Saif tua 20 km i'r de o ddinas Cwlen, ar lan afon Rhein. O 1949 hyd 1990, roedd Bonn yn brfddinas Gorllewin yr Almaen, yna o 1990 hyd 1999 yn ganolfan llywodraeth yr Almaen unedig, hyd nes i'r brifddinas gael ei symud i Berlin.
Sefydlwyd y ddinas yn y cyfnod Rhufeinig. Tua 11 CC, roedd uned o'r fyddin Rufeinig a gwersyll ar y safle, a chyn hynny roedd aelodau o lwyth yr Ubii wedi eu sefydlu yma gan y fyddin. Efallai fod yr enw Lladin Bonna yn dod o enw'r llwyth arall yn yr ardal, yr ,Eburones. Yn ddiweddarach, datblygodd sefydliad milwrol mawr o'r enw Castra Bonnensis. Hon yw'r gaer Rufeinig fwyaf o'i math y gwyddir amdani.
Wedi'r Ail Ryfel Byd, pan rannwyd yr Almaen, dewiswyd Bonn yn brifddinas Gorllewin yr Almaen gan Konrad Adenauer, oedd yn frodor o'r ardal.
Mae Bonn hefyd yn nodedig fel man geni'r cyfansoddwr Ludwig van Beethoven; gellir gweld y tŷ lle ganed ef yn y Bonngasse.