Yr ail dudalen o'r stori yn y llawysgrif a elwir yn Llyfr Coch Hergest | |
Math o gyfrwng | Erzählung, gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1375 |
Genre | llenyddiaeth epig |
Yn cynnwys | y Brenin Arthur |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Chwedl Gymraeg ganoloesol sy'n perthyn i Gylch Arthur yw Breuddwyd Rhonabwy (Cymraeg Canol: Breudwyt Ronabwy). Mae'n chwedl ymwybodol-lenyddol gan lenor dawnus gydag elfen gref o'r bwrlesg ynddi. Fe'i lleolir yn hen deyrnas Powys yn amser Madog ap Maredudd (m. 1160). Mae'r awdur yn anhysbys ond mae'n debygol ei fod yn frodor o Bowys.