Defnyddir Britannia fel symbol o Brydeindod, ynghyd â symbolau eraill megis John Bull. Fe'i delweddir fel merch arfog, yn gwisgo helm.
Daw'r enw yn wreiddiol o enw talaith Britannia o fewn yr Ymerodraeth Rufeinig, enw sydd a chysylltiad a'r gair Cymraeg Prydain. Datblygodd y symbol yn y 18g, pan roddwyd tryfer iddi fel arf, yn cynrychioli arglwyddiaeth dros y moroedd. Fel ffigwr symbolaidd, mae'n cyfateb i Marianne yn Ffrainc neu Uncle Sam yn yr Unol Daleithiau.
Pan adeiladwyd Pont Britannia tros Afon Menai, y bwriad gwreiddiol oedd cael cerflun enfawr o Britannia ar ganol y bont. Ni wireddwyd y cynllun, efallai oherwydd prinder arian.