Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Prima. Roedd yn un o'r pedair talaith a grëwyd tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian; y tair arall oedd Britannia Secunda, Maxima Caesariensis a Flavia Caesariensis.
Roedd Britannia Prima yn cynnwys ardaloedd sydd yn cyfateb i Gymru a gorllewin Lloegr heddiw. Credir bod ei phrifddinas yn Corinium neu Corinium Dobunnorum (Cirencester, yn Swydd Gaerloyw heddiw).