Britannia Superior

Britannia Superior
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasLlundain Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBritannia Edit this on Wikidata
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata

Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Superior. Roedd yn un o'r ddwy dalaith a grewyd tua 197 OC, pan rannodd yr ymerawdwr Septimius Severus dalaith Britannia yn ddwy; y dalaith arall oedd Britannia Inferior.

Roedd prifddinas Britannia Superior yn Londinium (Llundain), ac roedd yn cynnwys rhan ddeheuol Lloegr a'r cyfan o Gymru. Yn Efrog yr oedd prifddinas Britannia Inferior, oedd yn cynnwys rhan ogleddol Lloegr, ond nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y ffin rhwng y ddwy dalaith.

Tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian, rhannwyd talaith Britannia Superior yn ddwy: Britannia Prima a Maxima Caesariensis. Roedd Britannia Prima yn cynnwys Cymru a gorllewin Lloegr, gyda phrifddinas yn Cirencester, tra'r oedd Maxima Caesariensis yn cynnwys de-ddwyrain Lloegr, gyda'r brifddinas yn Londinium.


Britannia Superior

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne