Enghraifft o: | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | du-a-gwyn |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Cofrestr Cenedlaethol Ffilmiau |
Dyddiad cyhoeddi | 1919 |
Genre | ffilm ramantus, ffilm fud, ffilm ddrama |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Llundain |
Hyd | 90 munud |
Cyfarwyddwr | D. W. Griffith |
Cynhyrchydd/wyr | D. W. Griffith |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures |
Cyfansoddwr | D. W. Griffith |
Dosbarthydd | United Artists, Netflix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Billy Bitzer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffilm ramantus heb sain (na llais) gan y cyfarwyddwr D. W. Griffith yw Broken Blossoms or The Yellow Man and the Girl, a gyhoeddwyd yn 1919. Fe'i cynhyrchwyd yn Unol Daleithiau America. Dyma'r ffilm gyntaf a ddosbarthwyrd gan United Artists.
Mae'r ffilm hon wedi'i seilio ar y stori fer "The Chink and the Child" gan Thomas Burke a gyhoeddwyd yn 1916. Mae'n adrodd hanes merch ifanc sy'n cael ei cham-drin gan ei thad o baffiwr alcoholig; mae hi'n cwrdd â dyn caredig o Tsieina sy'n syrthio mewn cariad â hi. Erbyn y diwedd mae'r tri wedi marw: mae'r ferch yn cael ei lladd gan ei thad meddw, mae'r tad yn cael ei ladd gan y dyn Tsieineaidd, sy'n cyflawni hunanladdiad wedyn.
Y prif actorion yn y ffilm hon yw Lillian Gish, Richard Barthelmess, a Donald Crisp. Cafodd ei ffilmio mewn du a gwyn. Gan fod y ffilm wedi ei chyhoeddi dros 95 mlynedd yn ôl, mae yn y parth cyhoeddus.[1]
Broken Blossoms oedd y ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn.