Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,242, 1,129 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,481.57 ha |
Yn ffinio gyda | Malpas, Swydd Gaer |
Cyfesurynnau | 52.9505°N 2.7694°W |
Cod SYG | W04000216 |
Cod OS | SJ484395 |
Cod post | SY13 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bronington[1][2] ( ynganiad ). Saif ar ochr ddwyreiniol afon Dyfrdwy ym Maelor Saesneg, yn agos i'r ffin a Lloegr. Roedd y boblogaqeth yn 2001 yn 1,228.
Dyddia'r eglwys o 1836; cyn hynny roedd yr adeilad yn ysgubor degwm. I'r de-ddwyrain o'r pentref, mae Plas Iscoyd, a adeiladwyd tua 1740 a'i ymestyn yn y 19g. I'r de o'r pentref, mae Fenn's Moss, ardal o fawnog sy'n ymestyn tros y ffin i Swydd Amwythig. Mae'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]