Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 24 Mehefin 1314 |
Rhan o | Rhyfeloedd dros annibyniaeth yr Alban |
Dechreuwyd | 23 Mehefin 1314 |
Daeth i ben | 24 Mehefin 1314 |
Lleoliad | Bannockburn, Maes y Gad, Bannockburn |
Gwladwriaeth | Teyrnas yr Alban |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd Brwydr Bannockburn (Gaeleg yr Alban: Blàr Allt nam Bànag neu Blàr Allt a' Bhonnaich) ar 24 Mehefin 1314 rhwng byddin yr Alban dan Robert I, brenin yr Alban (Robert Bruce) a byddin Lloegr dan Edward II, brenin Lloegr. Hon oedd brwydr dyngedfennol Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf yr Alban, a sicrhaodd buddugoliaeth ysgubol yr Albanwyr eu hanibyniaeth.
Tua Gŵyl y Grawys 1314, roedd Edward Bruce, brawd brenin yr Alban, wedi dechrau gwarchae ar Gastell Stirling. Gwnaeth amddiffynwyr y castell gytundeb a Bruce, y byddent yn ildio'r castell iddo erbyn canol haf os nad oedd byddin wedi dod i godi'r gwarchae. Pan glywodd Edward II y newyddion, cododd fyddin enfawr (yn cynnwys cryn nifer o Gymry) a chychwynnodd am Stirling i godi'r gwarchae.
Cyfarfu'r fyddin yma a byddin lawer llai yr Albanwyr ychydig i'r de o Stirling; mae'r frwydr yn cymryd ei henw o'r afonig "Bannock Burn" ger maes y frwydr. Mae anghytundeb ymysg haneswyr ynghylch yr union safle, ond mae'r rhan fwyaf yn cytuno nad lle mae'r Ganolfan Ymwelwyr bresennol y bu'r ymladd.
Bu rhywfaint o ymladd ar 23 Gorffennaf. Bu un digwyddiad adnabyddus; roedd Syr Henry de Bohun, nai Iarll Henffordd, yn arwain catrawd o filwyr Seisnig pan welodd y brenin Robert yn marchogaeth ar ei ben ei hun ar balffri bychan wedi bod yn ymweld a rhai o'i filwyr. Carlamodd de Bohun tuag ato, ond llwyddodd y brenin i osgoi ei bicell a'i ladd ag un ergyd o'i fwyell.
Ar doriad dydd y diwrnod canlynol, symudodd yr Albanwyr ymlaen i ymosod ar y Saeson; y rhan fwyaf ohonynt yn ymladd a gwaywffyn hir, wedi eu ffurfio yn schiltron fel bod mur o waywffyn yn wynebu unrhyw un a fynnai ymosod arnynt. Methodd y marchogion Seisnig a thorri i mewn i'r rhain, a gwasgarwyd y saethyddion Seisnig gan y marchogion Albanaidd.
Enillodd yr Albanwyr fuddugoliaeth syfrdanol, gan ladd nifer fawr o uchelwyr Seisnig a chymeryd llawer eraill yn garcharorion. Ffôdd y brenin Edward o'r maes, a chyrraedd Castell Dunbar cyn cymryd llong i Loegr.