Math o gyfrwng | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 21 Mehefin 217 CC |
Rhan o | Ail Ryfel Pwnig |
Lleoliad | Llyn Trasimeno |
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd Brwydr Llyn Trasimene ar 24 Mehefin 217 CC yn Umbria yng nghanolbarth yr Eidal, rhwng byddin Gweriniaeth Rhufain dan y conswl Gaius Flaminius Nepos a byddin Carthago dan Hannibal. Roedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Pwnig, ac yn un o fuddugoliaethau mwyaf Hannibal.
Ymladdwyd y frwydr ar lan ogleddol Llyn Trasimeno. Roedd byddin Rhufain o tua 40,000 yn symud tua'r dwyrain ar hyd glan y llyn, yn awchus am frwydr. Roedd yn fore niwlog, ac yn ddiarwybod i'r Rhufeiniaid, roedd Hannibal wedi cuddio ei fyddin o tua 50,000 yn y bryniau uwchben y llyn. Ymosodasant yn ddirybudd, gan ddal y Rhufeiniaid cyn iddynt fedru trefnu eu rhengoedd ar gyfer brwydr. Lladdwyd tua 15,000 o'r Rhufeiniaid, un ai yn y frwydr neu trwy foddi yn y llyn wrth geisio dianc, a chymerwyd tua 10,000 o garcharorion. Ymhlith y meirwon roedd Gaius Flaminius Nepos ei hun. Roedd colledion y Carthaginiaid yn llawer llai, rhwng 1,500 a 2,500.