Enghraifft o: | brwydr |
---|---|
Rhan o | Ffrynt y Gorllewin, y Rhyfel Byd Cyntaf |
Dechreuwyd | 31 Gorffennaf 1917 |
Daeth i ben | 10 Tachwedd 1917 |
Lleoliad | Passendale |
Yn cynnwys | Battle of Pilckem Ridge, Capture of Westhoek, Battle of Langemarck, Battle of the Menin Road Ridge, Battle of Polygon Wood, Battle of Broodseinde, Battle of Poelcappelle, First Battle of Passchendaele, Battle of La Malmaison, Second Battle of Passchendaele |
Gwladwriaeth | Gwlad Belg |
Rhanbarth | Zonnebeke |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a ddigwyddodd rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 1917 oedd Brwydr Passchendaele (hefyd Trydedd Brwydr Ypres). Ymladdwyd y frwydr ger dinas Ypres yng Ngwlad Belg, rhwng byddin yr Almaen dan Max von Gallwitz ac Erich Ludendorff, a lluoedd y cynghreiriaid, yn cynnwys milwyr o wledydd Prydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan Douglas Haig a Hubert Gough.
Dedleuai Prif Weinidog Prydain, sef David Lloyd George, yn erbyn y frwydr am nifer o resymau [1]. Cytunai'r Cadfridog Ffrengig Ferdinand Foch gydag ef. Credai'r ddau y dylid aros am gymorth yr Americanwyr.
Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar 31 Gorffennaf 1917.[2] Roedd yr ymgyrch wedi'i chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad Lloyd George. Y bwriad oedd torri drwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd Oostende a Zeebrugge, oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.
Parhaodd y frwydr hyd 6 Tachwedd 1917, pan gipiwyd Passendale, oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglŷn â cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cynghreiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal.