Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 622, 600 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,108.17 ha |
Cyfesurynnau | 52.6089°N 4.0561°W |
Cod SYG | W04000054 |
Cod OS | SH607032 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Bryn-crug[1] ( ynganiad ), weithiau Bryncrug.[2] Saif y pentref i'r gogledd ddwyrain o dref Tywyn, ger cyffordd y briffordd A493 a'r B4405. Llifa Afon Dysynni ychydig i'r gorllewin.
I'r de-orllewin o'r pentref mae plasdy Ynysymaengwyn; mae'r plasdy a godwyd yn 1758 bellach wedi ei ddymchwel. I'r de o'r pentref mae castell mwnt a beili Cynfal, a godwyd yn 1137 gan Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd. Saif Castell Crug sef hen domen o'r Oesoedd Canol tua kilometr i'r de ddwyrain o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]