Brython Shag |
---|
Grŵp o ardal Blaenau Ffestiniog yw Brython Shag. Mae'r band yn cynnwys aelodau bandiau blaenorol o Flaenau Ffestiniog - Ceri Cunnington oedd prif leisydd Anweledig a'r cerddor a'r cyfansoddwr unigol, Gai Toms. Broliant y grŵp oedd; "O lwch hen fandiau Stiniog, ffurfiwyd un newydd... a ma hein yn mynd i godi'r to, o ddifri mo!" [1]
Maent yn recordio caneuon ar label Recordiau Sbensh. Cyhoeddwyd albwm ym mis Mawrth 2016. Maent hefyd wedi ymddangos ar S4C gan gynnwys ar raglen miwsig Cymraeg, Ochr1 gan gynnwys Teyrnged i'r Crys-T,[2] a cân Dwnsia Ne Granda.[3]