Buzz Aldrin | |
---|---|
Aldrin yng Ngorffennaf 1969 | |
Gofodwr NASA | |
Cenedligrwydd | Americanwr |
Statws | Wedi ymddeol |
Ganed | Edwin Eugene Aldrin Jr. 20 Ionawr 1930 Ysbyty Mountainside, Montclair, New Jersey, U.D.A. |
Swyddi arall | Peilot-ymladdwr |
Academi filwrol yr Unol Daleithiau, B.S. 1951 Massachusetts Institute of Technology, Sc.D. 1963 | |
Rheng | Cyrnol, USAF |
Amser yn y gofod | 12 diwrnod 1 awr a 52 munud |
Dewiswyd | 1963 NASA Grŵp 3 |
Cyfanswm EVA | 4 |
Cyfanswm amser EVA | 7 awr 52 munud |
Teithiau | Gemini 12, Apollo 11 |
Bathodyn taith | |
Ymddeoliad | 1 Gorffennaf 1971 |
Gwobrau | |
Gwefan | buzzaldrin.com |
Mae Buzz Aldrin (sef Edwin Eugene Aldrin, Jr., ganwyd 20 Ionawr 1930) yn enwog am fod yr ail ddyn i gerdded ar y Lleuad. Glanodd Aldrin ar y Lleuad gyda Neil Armstrong ar 20 Gorffennaf 1969, fel rhan o'r perwyl ofod Apollo 11. Hedfanodd i'r gofod dwywaith, unwaith yn Gemini 12 (1966), ac eto ar Apollo 11 yn 1969. Ar ôl dychwelyd o'r Lleuad, gadawodd Aldrin NASA, a dioddefodd o iselder, ond derbynodd driniaeth effeithiol.[1] Mae'n awdur saith o lyfrau ar y gofod.
Ganed ef yn Montclair, New Jersey, ac astudiodd ym Massachusetts Institute of Technology.
Yn 2009, dywedodd na chredai fod dyn yn cael effaill newid yn hinsawdd y Ddaear:
"I think the climate has been changing for billions of years. If it's warming now, it may cool off later. I'm not in favor of just taking short-term isolated situations and depleting our resources to keep our climate just the way it is today. I'm not necessarily of the school that we are causing it all, I think the world is causing it."[2]