Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Slafiaid Deheuol |
Mamiaith | Bwlgareg |
Label brodorol | българи |
Poblogaeth | 7,000,000 |
Crefydd | Catholigiaeth, eglwysi uniongred, islam |
Rhan o | Slafiaid Deheuol |
Yn cynnwys | Pomaks, Bessarabian Bulgarians, Banat Bulgarians, Macedonian Bulgarians, Thracian Bulgarians |
Enw brodorol | българи |
Gwladwriaeth | Bwlgaria, Unol Daleithiau America, Wcráin, yr Almaen, Sbaen, y Deyrnas Unedig, Moldofa, yr Eidal, Gwlad Groeg, Rwsia, Yr Iseldiroedd, Canada, Serbia, Awstralia, Sweden, Rwmania, Hwngari, Casachstan, Tsiecia, Gweriniaeth Iwerddon |
Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i Fwlgaria yn y Balcanau yw'r Bwlgariaid. Bwlgareg, o gangen ddeheuol yr ieithoedd Slafonaidd, yw eu hiaith frodorol. Maent yn cyfri am ryw 85% o boblogaeth Bwlgaria. Maent yn disgyn o dri grŵp o hynafiaid a gymysgodd yn nwyrain y Balcanau yn yr Oesoedd Canol—y Bolgariaid, y Thraciaid, a'r Slafiaid—, ac yn perthyn yn agos i'r Slafiaid deheuol eraill, yn enwedig siaradwyr ieithoedd Slafonaidd y de-ddwyrain: y Macedoniaid, y Groegiaid Slafeg, a'r Serbiaid Torlaceg.