Cacti | |
---|---|
Ferocactus pilosus yn tyfu ger Saltillo, Coahuila, yng ngorllewin-ddwyrain Mecsico. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Magnoliophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Caryophyllales |
Teulu: | Cactaceae Juss. |
Planhigyn suddlon di-ddail yw'r cactws ac iddo fonyn cnawdiog trwchus gyda phigau ac yn aml blodau lliwgar. Mae'r cacti yn gyfystyr â'r teulu Cactaceae, yn yr urdd Caryophyllales. Maent yn seroffytau ac yn tyfu mewn hinsawdd boeth a sych.
Mae cacti yn frodorol i'r Amerig, ac yn tyfu o Batagonia i orllewin Canada. Yr unig rywogaeth o gactws nad yw'n hollol frodorol i'r Amerig yw Rhipsalis baccifera, sydd hefyd yn tyfu yn Affrica a Sri Lanca.[1] Mae cacti'n hynod o boblogaidd i'w tyfu dan do neu yn yr ardd, ac wedi eu cyflwyno ar draws y byd.
Mae nifer o gacti yn byw mewn ardaloedd sych, megis yr anialwch. Mae gan y mwyafrif ohonynt ddrain meinion a chroen trwchus. Ceir amrywiaeth eang o gacti o bob siâp a maint. Mae gan nifer ohonynt flodau mawr a lliwgar. Mae rhai ohonynt yn blodeuo yn ystod y nos ac yn cael eu peillio gan wyfynod ac ystlumod. Mae rhai yn cynhyrchu ffrwythau sy'n faeth i eifr, adar, morgrug, ystlumod, a bodau dynol.