Enghraifft o'r canlynol | arithmetic calendar, solar calendar, interval scale |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Ionawr 1752, 15 Hydref 1582, Tachwedd 1583, 15 Hydref 1582, 1648, 16 Chwefror 1682, 20 Rhagfyr 1582, 14 Chwefror 1918, 14 Medi 1752, 1 Mawrth 1753, 1 Ionawr 1873, 1582 |
Yn cynnwys | Gregorian dominical cycle, mis, blwyddyn galendr, wythnos, diwrnod, proleptic Gregorian calendar |
Rhagflaenydd | Calendr Iŵl, Tenpō calendar |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Calendr Gregori ydy'r calendr mwyaf cyffredin drwy'r byd; caiff ei ddefnyddio drwy Ewrop.[1][2][3] Cafodd ei dderbyn (yn answyddogol) fel y dull rhyngwladol o fesur amser a dyddiadau ers degawdau yn y byd cyfathrebu, teithio a diwydiant, a chaiff ei adnabod gan sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig.[4]
Fe'i mabwysiadwyd gan y Pab Grigor XIII ar 24 Chwefror 1582, er fod y ddogfen wreiddiol wedi'i dyddio "1581".
Roedd y flwyddyn yng nghalendr Iŵl, a wnaed yn nheyrnasiad Iŵl Cesar, yn cynnwys 365.25 o ddyddiau yn union, ond mae'r flwyddyn drofannol yn union 365.2422 diwrnod, felly pob 4 canrif roedd calendr Iŵl yn cynnwys tridiau yn ormod! Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae calendr Iŵl 13 diwrnod y tu ôl i'r calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar galendr Iŵl ydy'r 14eg ar galendr Gregori.
Roedd yr Eglwys Gatholig eisiau calendr a fyddai'n caniatáu iddynt ddathlu'r Pasg ar yr amser a benodwyd gan Gyngor Cyntaf Nicaea yn y flwyddyn 325, sef y dydd Sul wedi 14eg dydd y Lleuad sydd ar (neu wedi'r) Cyhydnos Wanwynol, tua 21 Mawrth yn amser y cyngor. Yn y flwyddyn 325 roedd y nam hwn wedi'i weld, ond, yn hytrach na thrwsio'r calendr symudodd y cyngor ddyddiad y Cyhydnos o 24 Mawrth neu 25 Mawrth i 21 Mawrth! Erbyn yr 16eg canrif roedd y cyhydnos wedi symud llawer mwy a mynnodd yr Eglwys Babyddol ddiwygio'r drefn. Y gwledydd Pabyddol, felly, oedd y gwledydd cyntaf i fabwysiadu'r calendr newydd hwn.
Roedd dau newid sylfaenol felly yn y calendr newydd: yn gyntaf, addasu hen galendr Iŵl ac yn ail addasu calendr y lleuad a ddefnyddid gan yr eglwys i nodi dyddiadau'r Pasg. Meddyg o Galbria, sef Aloysius Lilius (neu Lilio), fu'n bennaf gyfrifol am y gwaith o'u cymhathu a'u diwygio. Yn gonglfaen i'w waith nododd fod angen lleihau'r nifer o ddyddiau naid o fewn pob pedair canrif o 100 i 97, gan wneud 3 allan o'r 4 blwyddyn yn gyffredin yn hytrach na blwyddyn naid.
Nodwyd hyn fel a ganlyn:
Os medrid rhannu'r flwyddyn gyda 4 - yn union - yna fe'i hystyrir yn flwyddyn naid, ar wahân i'r blynyddoedd a ellir eu rhannu gyda 100 (yn union). Ar ben hyn, mae'r blynyddoedd hynny y gellir eu rhannu gyda 400 hefyd yn flynyddoedd naid. Er enghraifft, nid ydy'r flwyddyn 1900 yn flwyddyn naid ond mae'r flwyddyn 2000 yn flwyddyn naid.[5]
Calendr heulol ydyw ef mewn gwirionedd. Mae blwyddyn Gregori'n cynnwys 365 diwrnod, ac mewn blwyddyn naid ceir diwrnod naid, sef 29 Chwefror sy'n gwneud cyfanswm o 366 diwrnod. Fel arfer mae blwyddyn naid yn diwgwydd pob pedair mlynedd ond mae'r calendr Gregori'n gadael allan 3 diwrnod naid pob 400 mlynedd, yn wahanol i'r calendr a'i ragflaenodd.
|deadurl=
ignored (help)