Enghraifft o'r canlynol | cylch o gerddi |
---|
Corff o gerddi Cymraeg traddodiadol sy'n darogan dyfodol y Brythoniaid/Cymry ac yn eu hatgoffa o'u gorffennol yw'r Canu Darogan, a elwir hefyd yn Ganu Brud neu'r Brudiau. Gorwedd gwreiddiau'r canu arbennig hwn yn ôl ym myd y Celtiaid. Blodeuodd y traddodiad yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, yn enwedig gyda dyfodiad y Normaniaid ac yn y cyfnod ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru hyd at gyfnod Owain Glyndŵr ac ymgyrch Harri Tudur. Y ffigwr canolog yn y traddodiad oedd y Mab Darogan, a fyddai'n dychwelyd i waredu'r Cymry a gyrru'r Saeson allan o Ynys Brydain. Yr enw arferol ar y beirdd darogan yw 'daroganwyr' neu 'frudwyr'. Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi darogan yn waith beirdd di-enw a ddadogir ar Myrddin a Taliesin ac eraill, ond ceir nifer o gerddi gan feirdd wrth eu crefft hefyd, o gyfnod Beirdd yr Uchelwyr.