Carennydd

Carennydd
Mathinterpersonal relationship Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Perthynas rhwng bodau dynol yn seiliedig ar linach teuluol, hynny yw drwy perthynas waed a phriodas, yw carennydd. Gelwir grŵp cymdeithasol o aelodau teuluol yn grŵp ceraint. Y teulu niwclear yw'r grŵp ceraint sylfaenol, ac ar ei ffurf leiaf gall gynnwys dau berson yn unig, megis cwpl heb blant neu riant sengl ac unig blentyn. Mae grwpiau ceraint mwy o faint yn cynnwys y teulu estynedig, bandiau, claniau, a llwythau.[1]

Gelwir perthynas glos iawn heb sail deuluol neu briodasol yn garennydd gwneud.

  1. Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 12.

Carennydd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne