Math | castell, tŷ caerog, amgueddfa hanes |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefriw |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9.6 metr |
Cyfesurynnau | 53.1329°N 3.80115°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hen blasdy yn Nyffryn Conwy, ger Llanrwst, cartref hanesyddol Wyniaid Gwydir, yw Castell Gwydir (ceir y ffurfiau amgen Gwydyr a Gwyder). Gorwedd tua milltir i'r gorllewin o dref marchnad hynafol Llanrwst a 1.5 milltir i'r de o bentref Trefriw. Mae'r hen gastell yn blasdy crand erbyn hyn, ac wedi ei gosod ar dir gorlif gwastad Afon Conwy; i'r gorllewinol mae Coedwig Gwydyr.
Cysylltir Castell Gwydir yn bennaf â Syr John Wynn (1553-1627), awdur History of the Gwydir Family. Mae'r adeilad hardd yn dyddio o ail hanner y 16g. Fe'i adeiladwyd gan John Wyn ap Maredudd, taid Syr John.
Am flynyddoedd bu'n enwog am y peunod lliwgar a rodiai yn y gerddi ac ar hyd ben y muriau. Gwerthwyd y stad gan y teulu yn y 1890au. Mae'n gartref preifat heddiw ond yn agored i'r cyhoedd ar adegau.