Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 296.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.0412°N 3.595247°W |
Cod OS | SH931505 |
Cod post | LL21 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Pentref gwledig bychan yng nghymuned Cerrigydrudion, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cefn-brith[1][2] (ffurf amgen: Cefn Brith). Saif yn ardal Uwch Aled yn y bryniau yn ne-ddwyrain y sir, hanner milltir i'r gogledd o lôn yr A5 tua 2.5 milltir i'r gogledd-orllewin o bentref Cerrigydrudion, rhwng Corwen a Betws-y-Coed. Cyfyd Mynydd Hiraethog i'r gogledd o'r pentref. Roedd yn Sir Ddinbych gynt.