Enghraifft o'r canlynol | construct, cysyniad gwleidyddol |
---|---|
Math | grŵp o bobl |
Rhan o | dynoliaeth, Cenedl-wladwriaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymuned ddynol sy'n rhannu tiriogaeth o ran hanes, chwedlau, llên gwerin, diwylliant, cyfraith neu draddodiadau yw cenedl. Mae'n wahanol i wlad (bro ddaearyddol) a gwladwriaeth (bro wleidyddol).
Mae aelodau'r genedl neu'r gymdeithas yn teimlo cwlwm agosrwydd, sef hunaniaeth cenedlaethol, er nad ydynt i gyd wedi cyfarfod. Gellir ei ystyried yn gymuned wedi ei ddychmygu. Mae'r syniad fod pob bob dynol yn cael eu rhannu mewn grŵpiau o'r enw cenhedloedd, yn un o athrawiaethau mwyaf dylanwadol Gorllewin Ewrop a'r Hemisffer Gorllewinol ers yr 18g hwyr.[1] Mae cenedligrwydd yn athrawiaeth moesegol ac athroniaetol ac yn bwynt cychwyn ar gyfer ideoleg cenedlaetholdeb; mae cenedl yn fath o gymuned diwylliannnol a chymdeithasol hunan-ddiffiniedig.[2] Mae aelodau "cenedl" yn rhannu huaniaeth cyffredin, a tharddiad cyffredin fel arfer, mewn hanes, llinach, teulu neu ddisgyniad. Mae cenedl yn ymestyn ar draws sawl cenhedlaeth, ac mae'r meirw yn dal i gael eu hystyried fel aelodau o'r genedl. Er enghraifft, wrth gyfeirio at "ein milwyr" wrth gyfeirio at frwydr neu ryfel a ddigwyddodd gannoedd o flynyddoedd yn ôl.