Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol, mudiad cymdeithasol |
---|---|
Math | cenedlaetholdeb ethnig, racial nationalism, pan-nationalism |
Y gwrthwyneb | Black Power |
Dechreuwyd | 14 Hydref 1925 |
Yn cynnwys | criticism of multiculturalism |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cenedlaetholdeb sydd yn arddel taw cenedl yw'r bobl wynion, naill ai mewn cyd-destun rhanbarthol neu ryngwladol, a bod angen llywodraeth wen i sicrhau eu hawliau, hunaniaeth a diwylliant yw cenedlaetholdeb croenwyn. Fel mudiad byd-eang, neu ffurf ar holl-genedlaetholdeb, mae'n pwysleisio etifeddiaeth gyffredin yr hil wen. Ar ei ffurfiau rhanbarthol mae'n galw am ddatblygu a chynnal hunaniaeth genedlaethol y bobl wynion o fewn gwlad benodol, gan amlaf gwlad a chanddi boblogaeth wen yn disgyn o sawl gwahanol grŵp ethnig Ewropeaidd, er enghraifft Unol Daleithiau America neu Dde Affrica. Mae nifer o genedlaetholwyr croenwyn yn cefnogi cysyniad yr ethno-wladwriaeth wen, sef cenedl-wladwriaeth a fyddai'n neilltuo dinasyddiaeth ar gyfer gwynion ac yn diogelu eu buddiannau.[1]
Nid yw cenedlaetholdeb croenwyn yn gyfystyr â balchder croenwyn, goruchafiaeth y gwynion, ymwahaniaeth groenwen, nac hunaniaeth groenwen, er bod y cysyniadau a'r creodau hyn i gyd yn cydgyffwrdd yn aml.