Enghraifft o'r canlynol | cysyniad |
---|---|
Math | grŵp ethnig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hunaniaeth person yn ymwneud â chenedl yw cenedligrwydd, fel rheol mae cenedligrwydd person ynghlwm â lle cawsant eu geni neu â chenedligrwydd eu rhieni. Mae cenedligrwydd yn gysylltiedig â dinasyddiaeth, ond gall person fod â chenedligrwydd neu ddinasyddiaeth ddeuol. Er enghraifft, gall Cymro fod yn ddinesydd yr Unol Daleithiau.
Mae cenedligrwydd yn gallu bod yn bwnc dadleuol. Nid oes gan llawer o bobl megis Llydawyr neu Fasgiaid genedl a chaiff ei gydnabod yn swyddogol. Mae hyn hefyd yn wir i'r Cymry i ryw raddau, gan eu bont mewn nifer o gyd-destunau (megis ar basbort) yn swyddogol yn Brydeinwyr, ond mewn cyd-destynau swyddogol eraill (er enghraifft, ar ffurflenni gais am swyddi mae cwestiynau amrywiaeth ethnig yn cynnwys Cymru fel cenedl), maent yn cael eu hystyried yn Gymry.