Math o gyfrwng | ffurf gelf, arbenigedd, maes astudiaeth, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | adloniant, y celfyddydau |
Cynnyrch | music |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cerddoriaeth yw celfyddyd a fynegir drwy gyfrwng sŵn wedi'i drefnu mewn amser. Elfennau cyffredinol cerddoriaeth yw traw sy'n rheoli alaw a harmoni, rhythm (a'i gysyniadau perthynol tempo a mydr), deinameg, soniaredd a gwead.
Mae'r cread, perfformiad, arwyddocâd a hyd yn oed diffiniad cerddoriaeth yn amrywio yn ôl diwylliant a chyd-destun cymdeithasol. Mae cerddoriaeth yn amrywio o gyfansoddiadau trefniedig llym (a'u hail-gread yn ystod perfformiad) i ffurfiau cerddorol byrfyfyriol. Fe ellir rhannu cerddoriaeth i mewn i genres gwahanol.
I bobl yn nifer o ddiwylliannau, mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o'u ffordd o fyw. Diffiniodd athronwyr Groeg ac India hynafol gerddoriaeth fel tonau wedi'u trefnu'n llorweddol fel melodïau ac yn fertigol fel harmonïau. Yn gyffredinol nid oes un cysyniad rhyng-ddiwylliannol sy'n diffinio beth yw cerddoriaeth heblaw ei bod yn 'sŵn drwy amser'.[1]