Enghraifft o: | planed gorrach, asteroid |
---|---|
Màs | 939,300,000,000,000,000,000 cilogram |
Dyddiad darganfod | 1 Ionawr 1801 |
Olynwyd gan | 2 Pallas |
Lleoliad | y gwregys asteroid |
Echreiddiad orbital | 0.078912531765881 ±4.8e-12 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceres (symbol: ),[1] a elwir hefyd 1 Ceres neu (1) Ceres, yw'r lleiaf o'r planedau corrach yng Nghysawd yr Haul a'r unig un wedi ei lleoli o fewn y Wregys Asteroid. Mae hi wedi ei henwi ar ôl Ceres ym mytholeg Rufeinig - duwies tyfiant planhigion a chariad mamol. Cafodd ei darganfod ar 1 Ionawr, 1801, gan Giuseppe Piazzi. Gyda thryfesur o ryw 950 km, Ceres yw'r gwrthrych mwyaf yn y Wregys Asteroid, yn ffurfio traean o gyfanswm crynswth y Wregys Asteroid. Yn wahanol i'r asteroidau, mae gan Ceres ffurf cronnell. Bydd y chwiliedydd gofod DAWN yn ymweld â Ceres yn 2015.