Math | siroedd hanesyddol Lloegr, gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Truru |
Poblogaeth | 575,525 |
Gefeilldref/i | Coventry |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lloegr, cenhedloedd Celtaidd |
Sir | De-orllewin Lloegr |
Gwlad | Cernyw Lloegr |
Arwynebedd | 3,563 km², 3,562.3326 km² |
Yn ffinio gyda | Dyfnaint |
Cyfesurynnau | 50.3°N 4.9°W |
Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol |
Manylion | |
Un o'r gwledydd Celtaidd yw Cernyw (Cernyweg: Kernow; Saesneg: Cornwall), yn ne-orllewin Prydain. Mae hefyd yn sir hanesyddol Lloegr ac yn sir seremonïol y rhanbarth De-orllewin Lloegr, gyda'i dref gweinyddol yn Truro. Mae'n ffinio â Dyfnaint ar y tir ac yn gorwedd rhwng Môr Iwerddon a'r Môr Udd. Ystyrir Ynysoedd Syllan neu Scilly hefyd yn rhan o Gernyw. Ar 24 Ebrill 2014 cydnabyddwyd y Cernywiaid yn lleiafrif cenedlaethol.[1]
Truro yw'r unig ddinas, a hefyd y brifddinas. Mae prif drefi'r wlad yn cynnwys Newquay, Bodmin, St Austell, Camborne, Redruth a Padstow. Mae Cernyw yn enwog am fod yn lle dda i fynd am wyliau am ei fod yn dwymach ar gyfartaledd nac unrhyw le arall yng ngwledydd Prydain, ac am ei fod yn lle arbennig am syrffio.
Mae Cernyw hefyd yn enwog am ei phasteiod cig a'i mwynfeydd alcam, ac am Senedd y Stanorion neu Fwynwyr sy'n dal i fynnu mai ganddi hi mae'r hawl i reoli'r wlad. Piran yw nawddsant Cernyw, a'i faner yn groes wen ar gefndir du. Mae mudiad cenedlaethol gwleidyddol yng Nghernyw, ond nid yw'r pleidiau megis Mebyon Kernow a Phlaid Genedlaethol Cernyw wedi gwneud fawr o farc hyd yma, er iddynt gipio ambell sedd ar gynghorau lleol.
Cynhelir Gorsedh Kernow (Gorsedd Cernyw) bob blwyddyn i hyrwyddo'r iaith Gernyweg a diwylliant Cernyw.
Mae'r Tywysog Siarl hefyd yn dal y teitl Dug Cernyw.