Canol pentref Cerrigydrudion | |
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 740, 716 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,128.09 ha |
Cyfesurynnau | 53.026°N 3.562°W |
Cod SYG | W04000112 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cerrigydrudion[1][2] (neu Cerrig-y-drudion). Saif yn ne-ddwyrain y sir yn y bryniau ar lôn yr A5, tua 8 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Corwen. Yn ogystal â'r A5, mae lôn yn cysylltu'r pentref â Rhuthun i'r gogledd-ddwyrain a Dinbych i'r gogledd. Roedd yn Sir Ddinbych gynt.
Cerrigydrudion yw'r pentref mwyaf yn ardal Uwchaled, sydd yn cynnwys yn ogystal Llangwm, Pentrefoelas, Pentre-llyn-cymer, Dinmael, Glasfryn, Cefn-brith, Llanfihangel Glyn Myfyr a Cwmpenanner. Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 75% o'r boblogaeth o 692 o bobl yn siarad y Gymraeg fel iaith bob dydd.