Cerys Matthews | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ebrill 1969 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | artist stryd, canwr, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd radio, newyddiadurwr |
Arddull | cerddoriaeth roc |
Gwobr/au | MBE |
Gwefan | http://www.cerysmatthews.co.uk |
Cantores o Gymru yw Cerys Elizabeth Matthews (ganwyd 11 Ebrill 1969). Cafodd ei geni yng Nghaerdydd ond yr oedd cysylltiad cryf â Sir Benfro gan y teulu. Hi oedd prif leisydd y band Catatonia nes i'r grŵp wahanu ym mis Medi 2001. Yn dilyn hyn, symudodd i Nashville, Tennessee yn haf 2002 lle cyfarfu â Bucky Baxter, a gweithiodd gyda Matthews ar ei halbwm Cockahoop.
Ymddangosodd ar gyfres deledu ITV I'm a Celebrity…Get Me Out of Here! lle treuliodd gyfnod yn y jwngwl yn Awstralia. Daeth yn bedwerydd yn y gystadleuaeth.