Cetura | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymeriad Beiblaidd |
Priod | Abraham |
Plant | Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac, Sua |
Roedd Cetura (Hebraeg: קְטוּרָה,, o bosib yn golygu arogldarth) yn ordderchwraig [1] ac wedyn yn wraig i'r patriarch Beiblaidd Abraham. Yn ôl Llyfr Genesis, priododd Abraham â Cetura ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, Sara.[2] Roedd gan Abraham a Cetura chwe mab. Enwau'r meibion oedd Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua.[3] Daeth y chwe mab yn sylfaenwyr chwe llwyth Arabaidd a sefydlodd i'r de a'r dwyrain o Balestina.[4]
Mae nifer o sylwebyddion Iddewig wedi honni mae un person yw Cetura ac Aga, morwyn Sara a gordderchwraig Abraham.[5] Cafodd Aga ei throi allan o dylwyth Abraham oherwydd cenfigen Sara. Yr honiad yw ei bod wedi dychwelyd, o dan enw gwahanol, wedi marwolaeth Sara. Mae'r mwyafrif o sylwebyddion Cristionogol yn dweud bod Aga a Centura yn ddwy fenyw wahanol.
Mae ymlynwyr y ffydd Bahá'í yn credu bod eu sylfaenydd, Bahá'u'lláh, yn un o ddisgynyddion Cetura a Sara.[6]