![]() | |
Math | cofadeilad ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Gerddi Kensington ![]() |
Sir | Dinas Westminster ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Cyfesurynnau | 51.50241°N 0.17774°W ![]() |
Cod OS | TQ2657879738 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Cofadail fawr ym Mwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Llundain, yw Cofeb y Tywysog Albert. Saif yng Ngerddi Kensington, yn union i'r gogledd o Neuadd Frenhinol Albert. Fe'i comisiynwyd gan y Frenhines Fictoria er cof am ei gŵr y Tywysog Albert, a fu farw ym 1861.
Wedi marwolaeth y tywysog cynhaliwyd cystadleuaeth am gofeb yn 1862.[1] Y dyluniad buddugol oedd tŵr pigfain yn arddull yr Adfywiad Gothig gan Syr George Gilbert Scott. Mae ei gynllun yn cynnwys canopi 176 troedfedd (54 m) o uchder, wedi'i gynnal gan bedwar piler, ac oddi tano mae delw efydd euraidd o'r tywysog sy'n 4 metr o daldra. Yn llaw y tywysog y mae catalog yr Arddangosfa Fawr a gynhaliwyd yn Llundain ym 1851. Fel Llywydd Cymdeithas y Celfyddydau, roedd Albert wedi bod yn hyrwyddwr pwysig i'r syniad o'r Arddangosfa Fawr, a gynhaliwyd yn Hyde Park cyfagos. Defnyddiwyd elw'r Arddangosfa Fawr i adeiladu llawer o'r amgueddfeydd yn Ne Kensington, y mae delw Albert yn awr yn edrych drostynt.
Ar gorneli'r adeiladwaith mae dwy gyfres o gerfluniau alegorïaidd. Mae pedwar grŵp yn darlunio celfyddydau a gwyddorau diwydiannol Fictoraidd (amaethyddiaeth, masnach, peirianneg a chynnyrch), a phedwar grŵp arall yn cynrychioli’r pedwar cyfandir: Affrica, America, Asia ac Ewrop. Mae pob cyfandir yn cynnwys nifer o ffigurau ethnograffig ac anifail mawr: camel i Affrica, bual i'r America, eliffant i Asia a tharw i Ewrop. Mae gan y gofeb lawer o addurniadau eraill, gan gynnwys gatiau a rheiliau goreurog, grisiau, ffris hir a mosaigau.
Roedd angen deng mlynedd i gwblhau'r prif strwythur. Talwyd y gost o £120,000 (sy'n cyfateb i tua £17,000,000 yn 2025) drwy danysgrifiad cyhoeddus. Agorwyd y gofeb ym mis Gorffennaf 1872 gan y Frenhines Victoria. Gosodwyd y cerflun o Albert yn ei le yn ddiweddarach, yn 1876.