Cofi

Dyn o Gaernarfon, Gwynedd ydy cofi; un a anwyd a fagwyd ac sy'n dal i fyw yno... ac (yn bwysicach) sy'n ymfalchio yn y ffaith ei fod yn gofi. Er nad oes prawf pendant o'i darddiad, mae'n ddigon posib mai o'r gair Romani cove (sy'n golygu 'dyn') y daw neu o bosib o chav sef 'dyn ifanc'. Esboniad arall yw mai parchusiad o'r gair 'cont' ydyw gan y defnyddir 'cont' am berson fel yn y frawddeg, "Sut mae cont?" Mae 'co bach' ('person') a 'rhen go' ('tad') yn eiriau byw yn nhafodiaith y dre.


Cofi

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne