Math | rhanbarthau Ffrainc, un o wledydd tiriogaethol Ffrainc â statws arbennig, ardal ddiwylliannol |
---|---|
Prifddinas | Ajaccio |
Poblogaeth | 347,597 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Gilles Simeoni |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Nawddsant | Devota |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Corseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal amddiffyn a diogelwch deheuol |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Arwynebedd | 8,680 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 42.15°N 9.0833°E |
FR-20R | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cyngor Gweithredol Corsica |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Corsica |
Pennaeth y Llywodraeth | Gilles Simeoni |
Ynys ym Môr y Canoldir yw Corsica neu Ynys Cors (Ffrangeg: Corse; Corseg ac Eidaleg: Corsica). Hi yw'r bedwaredd ymhlith ynysoedd Môr y Canoldir o ran arwynebedd; dim ond Sicilia, Sardinia, a Cyprus sy'n fwy. Saif i'r gorllewin o'r Eidal ac i'r gogledd o ynys Sardinia. Ajaccio yw'r brifddinas a sedd esgobaeth yr ynys.
Ystyrir Corsica yn un o 26 région Ffrainc. Ar 1 Ionawr 2017 newidiwyd ei statws i fod yn collectivité territoriale unique, gyda mwy o bwerau na'r régions eraill. Rhennir yr ynys yn ddau département, sef Corse-du-Sud a Haute-Corse.
Yn ogystal â Ffrangeg, siaredir iaith Corseg gan 30,000 o bobl ar yr ynys, a 125,000 yn dweud eu bod nhw'n medru rhywfaint o'r iaith [1].
Mae Corsica yn enwog fel man geni Napoleon. Roedd y boblogaeth yn 2015 yn 326,898.[1]