Math | tref |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Fetropolitan Sandwell |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Canolbarth Lloegr (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Dudley |
Cyfesurynnau | 52.473°N 2.079°W |
Cod OS | SO947861 |
Tref yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Cradley Heath.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Sandwell. Cyn 1974 roedd yn rhan o sir hanesyddol Swydd Stafford. Saif tua 8 milltir (13 km) i'r gorllewin o ganol Birmingham.
Yn ystod y 19g daeth y dref yn ganolfan ar gyfer gwneud hoelion a chadwyni, a pharhaodd y diwydiannau hyn yn bwysig tan yr 1980au.