Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanuwchllyn, Mawddwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.0571 km² |
Uwch y môr | 577 metr |
Cyfesurynnau | 52.788344°N 3.680607°W |
Llyn ar lethrau dwyreiniol Aran Fawddwy yng Ngwynedd yw Craiglyn Dyfi neu Creiglyn Dyfi. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 15 acer, mewn cwm 1,905 troedfedd uwch lefel y môr. Mae'r nant sy'n llifo ohono yn dwyn yr enw Llaethnant, sy'n llifo tua'r dwyrain ac yn ymuno â nentydd eraill i ffurfio Afon Dyfi.
Ceir nifer o draddodiadau am y llyn, yn cynnwys un am gawr oedd yn byw yn yr ardal ac a oedd yn ymlochi yn y llyn bob Calan Haf i sicrhau ieuenctid tragwyddol. Roedd hefyd gysylltiadau a'r Tylwyth Teg.