Math | culfor |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gibraltar |
Cysylltir gyda | Y Môr Canoldir, Cefnfor yr Iwerydd |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Môr Canoldir |
Gwlad | Sbaen, y Deyrnas Unedig, Moroco |
Cyfesurynnau | 35.9739°N 5.5161°W |
Hyd | 59 cilometr |
Culfor sy'n cysylltu Môr y Canoldir â Môr Iwerydd, ac yn gwahanu Sbaen a Moroco yw Culfor Gibraltar (Arabeg: مضيق جبل طارق, Sbaeneg: Estrecho de Gibraltar, Saesneg: Strait of Gibraltar). Daw'r enw o benrhyn Gibraltar, sydd yn ei dro yn deillio o'r Arabeg Jebel Tariq (جبل طارق), sy'n golygu "mynydd Tariq". "Tarig" yw'r cadfridog Berber Tariq ibn-Ziyad a oedd yn arwain y fyddin Islamaidd a goncrodd ran helaeth o Sbaen.
Mae'r culfor yn 8 milltir (13 km) o led yn y man culaf, a'i ddyfnder yn amrywio rhwng 300 a 900 medr. Defnyddiai'r awduron clasurol yr enw "Pileri Heracles" am y creigiau bob ochr iddo, Gibraltar ar un ochr ac un o nifer o greigiau ar ochr Moroco. Ym mis Rhagfyr 2003 cytunodd Sbaen a Moroco i edrych i mewn i'r posibilrwydd o adeiladu twnnel rheilffordd o dan y culfor