Arwr y chwedl Gymraeg Canol Culhwch ac Olwen yw Culhwch. Yn y chwedl mae'n ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr.
Mae Culhwch yn fab i Cilydd fab Celyddon Wledig a Goleuddydd, merch Anlawd Wledig. Wedi i Goleuddydd farw, mae Cilydd yn ail-briodi. Dymuniad ei lysfam yw i Culhwch briodi ei merch hi. Pan wrthyd Culhwch, mae ei lysfam yn ei dynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - "y forwyn decaf erioed".
Mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder Arthur i gael ei gymorth a'i gynghor. Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys Cai a Bedwyr, yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgiau (anoethau) anodd os nad amhosibl. Mae'r rhain yn cynnwys ceisio Mabon fab Modron a hela'r Twrch Trwyth. Gwŷr Arthur sy'n cyflawni'r tasgau hyn, ac nid yw Culhwch ei hun yn cymryd fawr o ran ynddynt. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.