Enghraifft o'r canlynol | erthygl sydd hefyd yn rhestr, diplomatic recognition |
---|---|
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae cydnabyddiaeth ryngwladol o Wladwriaeth Palesteina, gan fwyaf, yn gydnabyddiaeth gan y corff priodol i wnued hynny, sef y Cenhedloedd Unedig. Y cefndir i hyn ydy gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd a ddeilliodd oherwydd fod cenedl y Palesteiniaid wedi colli eu tir i Israel pan grëwyd gwladwriaeth Israel yn 1948. Yn 1948 gorfodwyd cannoedd o filoedd o Balesteiniaid i ffoi o'u cartrefi yn yr hen Balesteina Adnabyddir y ffoedigaeth hon gan y Palesteiniaid fel Al Nakba (Arabeg: النكبة "Y Drychineb").