Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Rhywun sydd â hunaniaeth rhywedd sy'n anghyson neu nad yw'n gysylltiedig yn ddiwylliannol â'r rhyw a bennwyd adeg ei enedigaeth ac hefyd â'r rôl rhywedd sy'n gysylltiedig â'r rhyw hwnnw yw person trawsryweddol. Gellir bod ganddo statws rhywedd newydd sy'n cydweddu â'i hunaniaeth rhywedd, neu y gall fwriadu ei sefydlu. Yn gyffredin, ystyrir trawsrywiol yn is-set o drawsryweddol,[1][2][3] ond mae rhai pobl drawsrywiol yn gwrthod cael eu labeli yn drawsryweddol.[4][5][6][7]
Yn fyd-eang, mae'r mwyafrif o awdurdodaethau yn cydnabod y ddwy hunaniaeth draddodiadol a'r ddau rôl cymdeithasol o ran rhywedd, dyn a menyw, ond maent yn tueddu i eithrio hunaniaethau a mynegiadau eraill o ran rhywedd. Fodd bynnag, mae rhai gwledydd yn cydnabod trydydd rhywedd yn gyfreithiol. Mae'r trydydd rhywedd hwnnw yn aml yn gysylltiedig â bod yn anneuaidd. Erbyn hyn, mae gwell dealltwriaeth o'r amrywiaeth eang y tu allan i'r categorïau nodweddiadol o "ddyn" a "menyw", ac mae llawer o hunan-ddisgrifiadau nawr yn mynd i mewn i'r llenyddiaeth, gan gynnwys hollrywedd, rhywedd-cwiar ac anrhywedd. Yn feddygol ac yn gymdeithasol, mae'r term "trawsrywioldeb" yn cael ei ddisodli gan anghydweddiad rhywedd[8] neu ddysfforia rhywedd[9], ac mae'r termau fel pobl trawsryweddol, dynion traws a menywod draws ac anneuaidd yn disodli'r categori o bobl drawsrywiol.
Ystyrir y rhan fwyaf o'r materion ynghylch hawliau trawsryweddol yn gyffredinol yn ran o gyfraith deuluol, yn enwedig y materion o briodas a'r cwestiwn o berson trawsryweddol yn elwa ar yswiriant neu nawdd cymdeithasol ei bartner.
Amrywir y radd o gydnabyddiaeth gyfreithiol a ddarperir i bobl drawsryweddol ledled y byd. Erbyn hyn, mae llawer o wledydd yn cydnabod ailbennu rhyw drwy ganiatáu newid rhywedd cyfreithiol ar dystysgrif geni unigolyn.[10] Mae llawer o bobl drawsryweddol yn cael llawdriniaeth barhaol i newid eu cyrff, llawdriniaeth ailbennu rhyw neu'n newid eu cyrff yn lled-barhaol drwy ddulliau hormonaidd, therapi hormonau trawsryweddol (HRT). Mewn llawer o wledydd, mae rhai o'r addasiadau hyn yn ofynnol ar gyfer cydnabyddiaeth gyfreithiol. Mewn ychydig, mae'r agweddau cyfreithiol yn uniongyrchol gysylltiedig â gofal iechyd; hynny yw, mae'r un cyrff neu feddygon yn penderfynu a all person symud ymlaen yn eu triniaeth ac mae'r prosesau dilynol yn cynnwys y ddau fater yn awtomatig.
Mewn rhai awdurdodaethau, gall person trawsryweddol gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'i rywedd oherwydd ei hunaniaeth rhywedd yn unig drwy hunan-ddiffinio heb angen llawdriniaeth, hormonau neu ddiagnosis. Mewn rhai gwledydd, mae angen diagnosis meddygol eglur o "drawsrywioldeb" (o leiaf yn ffurfiol). Mewn awdurdodaethau eraill, mae angen diagnosis o "ddysfforia rhywedd" neu ddiagnosis tebyg ar gyfer rhai neu'r holl gydnabyddiaeth gyfreithiol sydd ar gael. Mae'r DSM-5 a'r ICD-10 yn cydnabod dysfforia rhywedd fel diagnosis swyddogol, ond yn y ICD-11 y'i cydnabyddir fel anghydweddiad rhywedd.