Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,692 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.736°N 4.307°W |
Cod SYG | W04000506 |
Cod OS | SN407067 |
Cod post | SA17 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lee Waters (Llafur) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref hynafol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, ar lan y ddwy afon Gwendraeth — afon Gwendraeth Fach ac afon Gwendraeth Fawr — yw Cydweli (Saesneg: Kidwelly). Mae Cydweli'n adnabyddus drwy Gymru am yr hwiangerdd draddodiadol Hen Fenyw Fach Cydweli.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Mynyddygarreg ar lannau'r Gwendraeth Fach. Roedd y canolwr rygbi a darlledwr enwog Ray Gravell, neu "Grav", yn frodor o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]