Math | cyfnewidfa stoc |
---|---|
Tynged | Cwymp Wall Street |
Sefydlwyd | 17 Mai 1792 |
Pencadlys | Dinas Efrog Newydd |
Lle ffurfio | Dinas Efrog Newydd |
Gwefan | https://www.nyse.com |
Prif gyfnewidfa stoc yr Unol Daleithiau ac un o'r pwysicaf o gyfnewidfeydd stoc y byd yw Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd (Saesneg: New York Stock Exchange). Fe'i lleolir ar Wall Street yn Ninas Efrog Newydd ac felly cyfeirir ati yn aml fel "Wall Street."
Yn Hydref 1929 cafwyd Cwymp Wall Street pan gwympodd gwerth y farchnad stoc yn gyflym iawn. Daeth hyn ag ymchwydd economaidd yr Unol Daleithiau yn y 1920au i ben, ac arweiniodd at y Dirwasgiad Mawr.