Cyfraith yw'r gyfraith gyffredin[1] (a elwir hefyd yn gyfraith achos, cynsail neu gyfraith gwlad) a ddatblygir gan farnwyr trwy benderfyniadau llysoedd a thribiwnlysoedd tebyg yn hytrach na thrwy statudau deddfwriaethol neu weithgarwch yr adran weithredol. System gyfreithiol yw system cyfraith gyffredin sy'n rhoi pwys cynseiliol i gyfraith gyffredin, ar yr egwyddor nad yw'n deg i drin ffeithiau tebyg yn wahanol ar achlysuron gwahanol. Gelwir corff y cynsail yn "gyfraith gyffredin" ac mae'n rhwymo penderfyniadau'r dyfodol. Mewn achosion lle mae'r pleidiau yn anghytuno ar ystyr y gyfraith, mae llys delfrydol mewn system cyfraith gyffredin yn edrych i benderfyniadau'r gorffennol gan lysoedd eraill. Os datryswyd dadl debyg yn y gorffennol, mae'n rhaid i'r llys ddilyn yr ymresymiad a ddefnyddiwyd yn y penderfyniad cynt: gelwir yr egwyddor hon o rwymo i gynsail yn stare decisis. Os yw'r llys yn canfod bod yr anghydfod dan sylw yn hollol wahanol i bob un achos gynt, ac felly'n "fater argraff gyntaf", yna mae gan farnwyr yr awdurdod a'r ddyletswydd i greu'r gyfraith trwy osod cynsail. Wedyn, daw'r penderfyniad newydd yn gynsail, ac bydd yn rhwymo llysoedd iddo yn y dyfodol.
Defnyddir systemau cyfraith gyffredin mewn nifer o wledydd, yn enwedig Cymru a Lloegr (tarddodd cyfraith gyffredin yn Nheyrnas Lloegr yn yr Oesoedd Canol), a nifer o gyn-drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Barbados, Maleisia, Singapôr, Bangladesh, Pacistan, Sri Lanca, India, Ghana, Camerŵn, Canada, Gweriniaeth Iwerddon, Seland Newydd, De Affrica, Simbabwe, Hong Cong, ac Awstralia.